Edible Mach

Prosiect Cyfredol Edible Mach a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw Tyfu, Coginio, Bwyta, Gyda’n Gilydd. Mae’r prosiect yn rhedeg o 2025-2027. Gweler ein hadran Oriel a Newyddion am yr hyn sy’n digwydd.

Amcanion y Prosiect:

  • Datblygu sgiliau tyfu bwyd yn y gymuned (sesiynau gwirfoddoli, gweithdai, clybiau garddio, pecynnau hadau a chylchlythyrau).
  • Datblygu sgiliau yn ymwneud â dewis, coginio a bwyta bwyd maethlon sydd â chynhwysion a dyfwyd yn lleol (gweithdai coginio Bocs Llysiau Mach, gwersi coginio ar ôl ysgol, hel bwyd gwyllt a choginio mewn sesiynau Cymraeg).
  • Gwella sgiliau iaith Gymraeg yn y gymuned (sesiynau dewch i goginio a fideos Cymraeg).
  • Mwy o Gydlyniant Cymunedol (Gweithgareddau mynediad agored a dau ddigwyddiad mawr bob blwyddyn).

Cysylltwch â ni: info@machmaethlon.org