Mae Blwch Llysiau Mach yn gynllun blwch llysiau a chynllun cydweithredol arloesol. Mae’n galluogi pobl Machynlleth a’r cyffiniau i gasglu gwerth wythnos o lysiau ffres a lleol ar un tro, gan roi pris teg i dyfwyr am eu cynnyrch hefyd.
Ond a wyddech chi fod y pŵer a gynhyrchir yn lleol yn Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi (BDCR) yn ein helpu i gael mwy o lysiau i gartrefi yn y dyffryn?
Mae elw o’u pŵer gwynt yn cael ei roi mewn prosiectau sydd o fudd uniongyrchol i’n cymuned, fel ein llysiau a dyfir yn lleol yn llawn maetholion, milltiroedd bwyd isel a dim cemegau artiffisial. Cafodd Blwch Llysiau Mach grant BDCR i gynnig blychau â chymhorthdal (£5 i ffwrdd) i gartrefi sydd angen ychydig o help ariannol, gan gefnogi anghenion cyfredol a hyrwyddo cydnerthedd bwyd ym Mro Dyfi.
Cysylltwch os hoffech roi cynnig ar y rhain! admin@machvegbox.co.uk

‘Roeddwn i rhwng swyddi ac roedd angen i mi gadw llygad ar fy ngheiniogau. Roedd cael fy mlwch llysiau a bod yn greadigol yn golygu fy mod i’n bwyta’n dda iawn ac yn gwybod faint roeddwn i’n ei wario ar fwyd bob wythnos. A doedd yr un wythnos yr un fath o ran cynhwysion – ac mi ro’n i’n arbed arian ar betrol gan nad oedd yn rhaid i mi yrru i’r archfarchnad. Diolch yn fawr, Blwch Llysiau Mach!’

